Mae gan y llety ei fynedfa ei hun, fel nad oes rhaid mynd drwy’r dafarn, gyda goriad i’r drws hwn, ar gyfer pob gwestai. Mae ganddom hefyd cwt gyda chlo y tu allan ar gyfer dillad gwlyb a lle i gadw beiciau.

Y Fflat

 
Mae ein fflat fodern ar yr ail llawr a yn cynnwys dwy ystafell wely ac yn cysgu hyd at 6 oedolyn. Gydag ystafell fyw glyd a chegin ar wahân bydd y fflat gyfan ar gyfer eich defnydd chi’n unig. 

 

Y Byncws

Dewch fyny’r grisiau i’n ystafelloedd modern a golau, mae gan pob gwely ei lamp bach ei hun a phlwg unigol. Mae ganddom hefyd ystafelloedd addas ar gyfer teuluoedd.

Teimlo’n llwglyd a rol eich gweithgareddau? Mae gan y Byncws gegin gyflawn ar eich cyfer, gyda digonedd o le i fwyta ag ymlacio. Os nad oes awydd coginio arnoch, mae ambell gaffi ger llaw, siopau ‘take away’ a bwytai yn y ddinas gyfagos, Bangor (6 milltir).